Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

E&S(4)-04-11 papur 2

 

Papur gan y Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

 

Blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer yr Amgylchedd a Chynaliadwyedd

 

Gorolwg

Ein prif flaenoriaethau yw helpu i sicrhau fod Cymru yn gwneud y defnydd cynaliadwy gorau posibl o dir a dŵr Cymru er mwyn cynnig iechyd, swyddi, ansawdd amgylcheddol a chymunedau cryf.  Rydym eisiau datblygu economi gynaliadwy a chryf all fyw o fewn ei derfynau amgylcheddol gan sefydlogi yna leihau ei defnydd o adnoddau naturiol a lleihau ei gyfraniad at newid hinsawdd.

 

Byddwn yn canolbwyntio ar ddarparu’r seilwaith angenrheidiol ar gyfer y 50 mlynedd nesaf o ran dŵr, llifogydd, arbed ynni, ynni adnewyddadwy a gwastraff ac ymgysylltu â’r cyhoedd a busnesau i’w hannog i weithredu mewn ffordd fwy cynaliadwy.

 

Mae’r meysydd canlynol yn amlinellu rhai o’n blaenoriaethau allweddol mewn rhagor o fanylder:

 

Datblygu Cynaliadwy

Mae Cymru yn un o nifer fach o wledydd ar draws y byd i osod datblygu cynaliadwy yn un o’r egwyddorion craidd yn eu cyfansoddiad.  Y ddyletswydd gyfreithiol hon sy’n sicrhau ein bod yn symud ymlaen mewn ffordd sy’n adlewyrchu ein hanghenion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.

 

Byddwn yn deddfu i sicrhau fod datblygu cynaliadwy yn egwyddor ganolog ym mhopeth rydyn ni’n ei wneud ar draws llywodraeth a chyrff cyhoeddus, a byddwn yn sefydlu corff datblygu cynaliadwy annibynnol ar gyfer Cymru.

 

Y Newid yn yr Hinsawdd

Byddwn yn parhau i weithio gyda phob sector er mwyn cyrraedd ein targed o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr 3% y flwyddyn mewn meysydd datganoledig gan ddechrau eleni. 

 

Byddwn hefyd yn sicrhau fod Cymru yn parhau i chwarae rhan yn rhyngwladol mewn cyfrannu at newid yn yr hinsawdd ac i arwain y ffordd a rhannu arfer da gyda gwledydd a rhanbarthau bach eraill.

 

 

 

Bioamrywiaeth ac ecosystemau

Byddwn yn parhau â’r gwaith o ddatblygu Fframwaith Amgylchedd Naturiol sy’n edrych ar sut rydym yn defnyddio’r amgylchedd yn ei gyfanrwydd a gwneud y mwyaf o’r manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol sy’n dod yn sgil yr amgylchedd. Ein hamcan yw creu un corff amgylcheddol newydd i Gymru er mwyn gweithredu hyn, gan dynnu ynghyd swyddogaethau ein cyrff noddedig, Asiantaeth yr Amgylchedd yng Nghymru, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Byddwn yn symud ymlaen gyda Mesur yr Amgylchedd yn ystod y tymor hwn.

 

Arbed ynni a thlodi tanwydd

Mae cynnydd mewn costau ynni yn anochel yn arwain at yr angen i ddelio gyda’r broblem o dlodi tanwydd.  Mae’n hanfodol ein bod yn delio â thlodi tanwydd ac arbed ynni gyda’i gilydd os ydym am fynd i’r afael â’r broblem.  Drwy’n rhaglen arbed ynni arloesol – ‘Arbed’, byddwn yn parhau i roi cymorth i’r rheiny sydd ei angen, yn lleihau alldyrrau carbon ac yn darparu rhagor o gyllid, hybu busnesau lleol a swyddi ac yn datblygu sgiliau.

 

Bydd ein rhaglen tlodi tanwydd newydd, NYTH, yn canolbwyntio ar anghenion tai unigol a darparu mesurau ar gyfer tai heb nwy.

 

Gwastraff ac arbed adnoddau

Mae’n strategaeth ddiweddar Tuag at Ddyfodol Diwastraff yn ymrwymo i darged ailgylchu hirdymor o 70% i roi Cymru ar yr un lefel â’r gorau yn Ewrop. Byddwn yn parhau i ddatblygu a chwblhau’r gyfres o Gynlluniau Sector i roi Tuag at Ddyfodol Diwastraff ar waith.

 

Ansawdd Amgylcheddol Lleol

Byddwn yn adeiladu ar lwyddiannau cam cyntaf rhaglen Trefi Taclus ac yn cryfhau’n cefnogaeth i wella amgylcheddau cymunedol fel rhan o’n gwaith gwrthdlodi.  Rydw i hefyd wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth ar ddarparu rhandiroedd yn ogystal â pharhau â’r gwaith o gyflwyno’r polisi talu am fagiau untro.

 

Cynllunio

Mae cynllunio yn adnodd allweddol yn achos llawer o bolisïau Llywodraeth Cymru.  Byddwn yn canolbwyntio ar weithio gyda rhanddeiliad mewnol ac allanol i sicrhau fod polisi cynllunio Llywodraeth Cymru yn ateb y gofyn ar draws yr holl feysydd ac i sicrhau fod trefniadau cynllunio yn cael eu symleiddio.  Byddwn ni’n cyflwyno deddfwriaeth ar gynllunio yn ystod y tymor hwn.

 

Egni

Mae Datganiad Polisi Ynni Carbon Isel Llywodraeth Cymru yn datgan sut yr ydym yn bwriadu gwneud y mwyaf o arbedion ynni a sicrhau fod y mwyafrif o’r ynni rydyn ni ei angen yng Nghymru yn dod o ffynonellau adnewyddadwy.

Ein hamcan yw, erbyn 2025, fod hyd at ddwywaith gymaint o drydan adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu bob blwyddyn yng Nghymru nag sydd ar hyn o bryd.  Erbyn 2050 ein bwriad yw y byddwn yn cwrdd â rhan fwyaf o’n hanghenion egni lleol drwy gynhyrchu trydan carbon isel.

 

Adeiladau cynaliadwy

Byddwn yn cyflwyno safonau adeiladu uwch mewn tai newydd wrth i ni symud tuag at adeiladau di-garbon.  Byddwn yn anelu at welliant o 55 y cant mewn safonau adeiladu erbyn 2013 o lefelau 2006.

 

Dŵr

Byddwn yn gweithio i ofalu bod mynediad i ddŵr yfed diogel ac i gynnal gwasanaethau dŵr a charthffosiaeth am bris fforddiadwy.  Byddaf hefyd yn gweithio gyda chwmnïau dŵr, rheolyddion a chyrff defnyddwyr ar bris fforddiadwy am ddŵr a chymorth gyda biliau dŵr ir bobl sydd ei angen.

 

Perygl llifogydd ac erydu arfordirol

Byddwn yn parhau i fuddsoddi cyllid sylweddol mewn prosiectau rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol ledled Cymru, gan flaenoriaethu’r cymunedau sy’n wynebu’r perygl mwyaf.  Bydd hyn yn lleihau’r effeithiau, codi ymwybyddiaeth ac yn darparu ymateb effeithiol a chyson i’r broblem i lifogydd ac erydu arfordirol.

 

Y Môr

Byddwn yn datblygu cynlluniau morol i helpu i sicrhau datblygu cynaliadwy yn y môr a’n hardaloedd arfordirol. Byddwn yn creu Parthau Cadwraeth Morol newydd i helpu ecosystemau naturiol i weithio ac i wella bioamrywiaeth.

 

Mynediad i Gefn Gwlad

Bydd Llwybr Arfordir Cymru yn agor ar y 5ed o Fai 2012.  Byddwn yn dathlu’r digwyddiad rhyngwladol pwysig hwn i Gymru yn ogystal ag ymgynghori ar bolisi o ran Parciau Naturiol ac Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol yng nghyd-destun y cynigion yn y Fframwaith Amgylchedd Naturiol. Rwyf hefyd yn gobeithio ei gwneud yn fwy hwylus i bobl sy’n byw mewn trefi i gyrraedd ardaloedd gwyrdd.

 

Coedwigaeth

Byddwn yn parhau â’r cynnydd yn strategaeth Coetiroedd i Gymru, cynyddu nifer ac amrywiaeth y rhywogaethau coed yng nghoetiroedd Cymru a rheoli’n weithredol fwy o’r coetir llydanddail sydd gennym eisoes.  Byddwn yn datblygu’r gwaith o gyflawni bwriad Llywodraeth Cymru i greu 100,000 hectar arall o goetir yn yr 20 mlynedd nesaf.

 

 


Iechyd a Lles Anifeiliaid

Prif ffocws Llywodraeth Cymru yw codi safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru. Mae’r amcan hwn yn berthnasol i bob polisi, o atal, rheoli a dileu afiechyd, ymbaratoi ar gyfer achosion o afiechyd egsotig, i wella safonau lles anifeiliaid yn gyffredinol.

 

Byddwn yn canolbwyntio ar:

 

·         Sicrhau bod deddfwriaeth a mecanweithiau yn eu lle i amddiffyn rhag afiechyd anifeiliaid hysbysadwy a’u cadw rhag lledaenu;

·         Bod yn barod bob amser ar gyfer afiechyd egsotig mewn anifeiliaid;

·         Gweithredu rhaglen gynhwysfawr sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i ddileu TB mewn gwartheg;

·         Codi safonau lles i anifeiliaid sy’n cael eu cadw yng Nghymru;

·         Sicrhau bod trefniadau gweithredu polisi yn addas i’r diben.